1,2,3,(4),5. O fy enaid gwan nac ofna, Nid concwerio unrhyw fai, Na gorchfygu cant o feiau, Rhwystra'm hyspryd lwfrhâu, Gwel'd y gras sydd yn yr Iesu, Mor ddigonol yw i'r gwan, Mewn dyfnderoedd angeu creulon, A ddeil fy ysbryd llesg i'r lan. Yn y rhyfel mi arosaf, Yn y rhyfel mae fy lle; Boed fy ngenau wrth y ddaear, Boed fy llygaid tua'r ne'; Doed y gongcwest pryd y delo, Disgwyl wnaf nes gwawrio'r dydd, Y caiff f'enaid blin lluddedig, Byth yn hollol fyn'd yn rhydd. Etto unwaith mi dderchafaf, Un ochenaid tua'r nef, Ac a wylaf ddagrau'n hidl, Am ei bresenoldeb ef, Pwy a wyr na chaf fy ngwrando Gan Dywysog mawr y nen, Ac na ddaw fy nymuniadau, Trist hiraethlon oll i ben. Mi feddyliais fod y wawr-ddydd, Hyfryd ddysgaler bron ger llaw, Mi debygaf trwy'r cymylau, Y gwelai oleu'r ochr draw; Deuwch wyntoedd mwyn y dëau, Chwythwch y cymylau o'u lle, Fel y gwelwyf yn ei gariad, Bresennoldeb Brenin Ne'. Ffarwel i chwi gynt a gerais, Nid yw'ch cwm'ni, nid yw'ch gwedd, Ni ddaw'r gorau o'm gyfeillion, Ond i'm danfon hyd y bedd: Pan ddel angau chwi ffowch ymaith, Da i mi fod gennyf Dduw, Ffrind ddaw gyda mi wedi'm farw, Hwnnw garaf tra f'wyf byw. - - - - - O fy enaid gwan nag ofna I goncwerio un rhyw fai, Caf orchfygu fy holl feiau Paid, O paid a llwfrhau! Gwel y gras sydd yn yr Iesu, Mor ddigonol yw i'r gwan, Mewn dyfnderoedd angeu creulon, Deil fy yspryd llesg i'r lan. Dyma'r fan y bydda'i marw A fy ngolwg tu a'r nef, Mi ddisgwyliaf hyd y wawr-ddydd Am ei bresenoldeb ef: Rhad maddeuant gwawria bellach, Rho garcharor caeth yn rhydd, Fu'n ymdreiglo mewn tywyllwch Yn awr i weled oleu'r dydd. Cyfod haul sy'n rhwygo'r t'wyllwch, Chwal y beiau mwya cudd, Gyrr holl ofnau anghrediniaeth, Fel y nôs o flaen y dydd: Rho i'm wel'd yr ardal hyfryd, Man lle mae fy ngobaith gwell, A chael pleser yn yr anial, I edrych ar y gwledydd pell. Nid fy nef yw ar y ddaear, Pe goreu man dan gwmpas haul; Fy nef yw tawel bresennoldeb Wyneb siriol Adda'r ail: Gwena arnaf Arglwydd grasol Ar fy nhaith, a digon yw; Yna 'nghanol cyfyngderau, Byth yn llawen bydda'i byw.William Williams 1717-91 Tôn [8787D]: Breuddwyd (<1876) gwelir: Draw mi wela'r nos yn darfod Dros bechadur buost farw Ffarwel i chwi gynt a gerais Mae addewid nef o'm hochr Nid fy nef yw ar y ddaear O na chlywn yr utgorn arian 'Rwyf yn gwel'd yr afon ddofn Tyr'd i fynu o'r anialwch Tyred Arglwydd i'r anialwch Tyred Iesu i'r anialwch Tywyned haul-wen ar fy enaid Unwaith eto mi ddyrchafaf |
O my weak soul, do not fear Not conquering any fault, Not overcoming a hundred faults, The frustration which discourages my spirit, See the grace which is in Jesus, How sufficient he is for the weak, In the depths of cruel death, Who holds my fainting spirit up. In the war I will stay, In the war is my place; May my mouth be by the earth, May my eyes be towards heaven; Let the conquest come when it will, Watch I shall until the dawn of the day, My weary, exhausted soul may get Forever, completely to go free. Once again I will raise up One groan towards heaven, And I shall weep streaming tears, For his presence, Who knows, I may get heard By the great Prince of the sky, And my sorrowful, longing Wishes come all to fulfilment. I thought that the delightful, Radian daybreak was almost at hand, I imagine through the clouds, Being able to see the light of the far side; Come ye gentle winds of the south, Blow ye the clouds from their place, That I see in his love, The presence of the King of Heaven. Farewell to you I formerly loved, Neither your company, nor your appearance, Nor the best of my friends shall come But to send me as far as the grave: When comes death ye shall flee away, It is good for me that God is with me, A Friend shall come with me after I die, That One will love me as long as I live. - - - - - O my weak soul, do not fear To conquer any kind of fault, I shall get to overcome all my faults Do not, O do not lose heart! See the grace there is in Jesus, So sufficient it is for the weak, In the depths of cruel death, It will hold my feeble spirit up. Here is the place I shall die With my sight towards heaven, I expect by the dawn of day His presence: Free forgiveness shall dawn henceforth, Set the captive prisoner free, Who was spending his time in darkness Now to see the light of day. Rise, thou sun, which rends the darkness, Smash the most hidden faults, Drive all fears of unbelief, Like the night before the day: Give me to see the delightful region, The place where is my better hope, And get pleasure in the desert, To look upon the distant lands. My heaven is not upon the earth, Even the best place under the sun's scope; My heaven is the quiet presence Of the cheerful face of the second Adam: Smile upon me, gracious Lord, Upon my journey, and sufficient it is; In the midst of straits, Forever joyful I shall live.tr. 2013,19 Richard B Gillion |
|